Defnyddio Diffibriliwr (AED)
Defnyddir diffibrilwyr allanol awtomatig (AED) i roi sioc i’r person sydd wedi dioddef ataliad y galon. Gallwch ddefnyddio AED ar eich pen eich hun neu gyda chynorthwyydd. Mae angen i chi gyflawni adfywio cardiopwlmonaidd (CPR) yn unol â’r canllawiau cyfredol ochr yn ochr â’r defnydd o’r AED. Mae CPR yn wahanol yn achos oedolion, plant a babanod. I ddefnyddio AED dylech ddilyn y camau isod.
How do you use a Defibrillator (AED)?
Cam 1
Ar ôl i chi sefydlu bod y person wedi dioddef ataliad y galon – anfonwch gynorthwyydd os oes gennych un i gael y diffibriliwr a ffoniwch 999/112. Bydd hyn yn eich gadael yn rhydd i ddechrau CPR.
Cam 2
Pan fydd y cynorthwyydd yn dychwelyd gyda diffibriliwr, gofynnwch iddo ei droi ymlaen a thynnu’r padiau allan tra byddwch chi’n parhau gyda CPR. Dylai dynnu neu dorri dillad i gyrraedd brest noeth y claf. Mae angen iddo hefyd sychu unrhyw chwys.
Os nad oes gennych gynorthwyydd, peidiwch â gadael y claf i ddod o hyd i ddiffibriliwr. Ar ôl i chi ddeialu 999/112 am ambiwlans, bydd diffibriliwr yn dod yn yr ambiwlans.
Bydd y diffibriliwr yn rhoi cyfarwyddiadau lleisiol ynghylch beth i’w wneud.
Cam 3
Dylid glynu’r padiau wrth frest y claf drwy dynnu’r papur cefn. Gosod y padiau yn y mannau a ddangosir ar y ddyfais.
Cam 4
Dylai’r pad cyntaf fod ar yr ochr dde uchaf o dan bont yr ysgwydd.
Dylai’r ail bad fod ar ochr chwith y claf islaw’r gesail.
Os yw’r claf yn blentyn rhwng 1 ac 8 oed, mae’r padiau yn cael eu gosod yn wahanol. Rhowch un pad ar ganol y frest a’r llall ar y cefn rhwng esgyrn yr ysgwydd. Yn ddelfrydol, dylech ddefnyddio padiau paediatrig, ond os nad yw’r rhain ar gael yna gellir defnyddio padiau oedolion yn y mannau paediatrig.
Os yw’r claf yn faban o dan un oed, dylid gofyn am arweiniad ar ddefnyddio AED gan gysylltwr ffôn galwadau 999.
Cam 5
Bydd y diffibriliwr yn dadansoddi rhythm y galon. Stopiwch CPR, a gwnewch yn siŵr nad oes neb yn cyffwrdd â’r claf. Yna bydd yn rhoi cyfres o gyfarwyddiadau gweledol a llafar y dylid eu dilyn.
Os yw’r diffibriliwr yn dweud wrthych fod angen sioc, dywedwch wrth bobl i symud yn ôl. Bydd y diffibriliwr yn dweud wrthych pryd i wasgu’r botwm sioc. Ar ôl rhoi’r sioc, bydd y diffibriliwr yn dweud wrthych am barhau â CPR am ddau funud cyn iddo ail-ddadansoddi.
Os yw’r diffibriliwr yn dweud wrthych nad oes angen sioc, parhewch â CPR am ddau funud cyn i’r diffibriliwr ail-ddadansoddi.
Cam 6
Os yw’r claf yn dangos arwyddion ei fod yn ymateb fel peswch, agor ei lygaid, siarad, neu ddechrau anadlu’n normal, rhowch ef yn yr ystum adferol.
Gadewch y diffibriliwr yn ei le a monitro lefel ei ymateb gan baratoi i roi CPR eto os oes angen.
How should you attach defibrillator (AED) pads to a casualty?
Dylid glynu’r padiau wrth frest y claf drwy dynnu’r papur cefn. Gosod y padiau yn y mannau a ddangosir ar y ddyfais.
- Dylai’r pad cyntaf fod ar yr ochr dde uchaf o dan bont yr ysgwydd.
- Dylai’r ail bad fod ar ochr chwith y claf islaw’r gesail.
- Os yw’r claf yn blentyn rhwng 1 ac 8 oed, mae’r padiau yn cael eu gosod yn wahanol. Rhowch un pad ar ganol y frest a’r llall ar y cefn rhwng esgyrn yr ysgwydd. Yn ddelfrydol, dylech ddefnyddio padiau paediatrig, ond os nad yw’r rhain ar gael yna gellir defnyddio padiau oedolion yn y mannau paediatrig.
- Os yw’r claf yn faban o dan un oed, dylid gofyn am arweiniad ar ddefnyddio AED gan gysylltwr ffôn galwadau 999.
Do you know we offer an Automated External Defibrillator (AED) course?